Helo, a diolch yn fawr iawn am eich diddordeb yn yr arolwg hwn sy'n cael ei rannu â phobl ifanc 11 - 25 oed, yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, neu'r ardal ehangach, sydd â phrofiad o fyw o heriau iechyd meddwl.
Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth drwy wneud yn siŵr bod cynulleidfa eang o ymarferwyr gwasanaeth, rheolwyr, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a llunwyr polisi yn clywed eich llais. Mae eich llais chi’n bwysig ac yn cyfrif.
Nod yr arolwg hwn yw casglu eich barn a’ch syniadau am:
1. Sut rydych chi'n gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles, a
2. Sut mae eraill yn helpu i gefnogi'ch iechyd meddwl a'ch lles, a
3. Beth hoffech fod yn well nag ydyw ar hyn o bryd
Gall yr arolwg gymryd pa mor hir sydd ei angen arnoch, ond mae angen ei gwblhau ar yr un pryd. Byddwch yn gallu gweld yr holl gwestiynau, a fydd yn rhoi syniad i chi o ba mor hir y gallai gymryd.
Bydd y rhan fwyaf o'r cwestiynau'n benagored ac yn cynnwys rhai awgrymiadau i'ch arwain. Bydd y cwestiynau yn wirfoddol gan mwyaf. Mae'r rhai y mae'n rhaid eu hateb wedi'u marcio â seren goch.
Gallwch chi gwblhau'r arolwg ar eich pen eich hun ac yn eich amser eich hun, neu gyda chefnogaeth rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
Efallai y byddwch hefyd am rannu cynnwys sain neu weledol, ac os felly bydd angen llwytho'r rhain i fyny gan ddefnyddio'r ddolen hon. Gweler yma am arweiniad pellach.
Bydd y wybodaeth a roddwch yn gyfrinachol a bydd y canlyniadau at ddibenion adrodd yn ddienw. Fodd bynnag, os dymunwch gael eich cynnwys mewn raffl i ennill taleb ‘Love to Shop’ gwerth £50, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth gyswllt.
Am fanylion ar sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ac yn diogelu eich preifatrwydd ac anhysbysrwydd, gweler yma.
CWBLHEWCH YR AROLWG HWN ERBYN 2 MEHEFIN
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am yr arolwg hwn, cysylltwch â Linda Newton: Linda@cavamh.org.uk Ffôn: 07522 914210
Camau Nesaf
Cynlluniwyd yr arolwg gan Grŵp Plant a Phobl Ifanc ‘Join the Dots’. Mae’r grŵp yma’n rhan o Fforwm Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro ac mae'n cynnwys aelodau o sefydliadau gwirfoddol lleol a gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc, sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl a lles.
Bydd ymchwilydd cymheiriaid a gomisiynwyd gan Gweithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro (cavamh) yn casglu’r arolygon ac yn cynhyrchu adroddiad a rennir o fewn y Grŵp a chyda dylanwadwyr statudol.
Rydym yn bwriadu cynnal digwyddiad yn yr haf, lle gellir rhannu'r canfyddiadau.