Ymchwil anghenion trydydd sector
Mae ProMo Cymru yn chwilio am sefydliadau trydydd sector i gymryd rhan mewn darn o ymchwil sydd yn canolbwyntio ar anghenion y sector. Bydd yr ymchwil yn ein cynorthwyo i greu adnoddau sydd yn cefnogi sefydliadau i fod yn fwy cynaliadwy a gwydn.
Mae ProMo yn gweithio mewn partneriaeth â CGGC a Cwmpas ar yr ymchwil yma, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Hoffem siarad â phobl sydd yn rhan o wneud y penderfyniadau a'r cynllunio yn eu sefydliad. Rydym yn chwilio am bobl sydd yn deall cyfeiriad, cynlluniau, anghenion a heriau eu sefydliad.
Meini prawf cyfranogwyr:
- Rhaid bod wedi'ch lleoli yng Nghymru
- Rhaid bod yn sefydliad trydydd sector (mae hyn yn cynnwys elusennau, sefydliadau dielw, mentrau cymdeithasol, grwpiau - cymunedol neu wirfoddol)
Cyfweliad:
- Ar-lein/ar y ffôn
- Cynhelir yng Nghymraeg neu Saesneg
- Hyd at 1 awr
- Rhwng dyddiadau 30ain Hydref a 10fed Tachwedd, rhwng 9yb a 5:30yp
Rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector ledled Cymru. Nodwch efallai na fydd posib cynnwys pawb, ond byddem yn ymateb i bob cais, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich diddordeb a'ch cefnogaeth.
This question requires a valid email address.